PSOW 24

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Public Services Ombudsman (Wales) Bill

Ymateb gan: Cyngor Meddygol Cyffredinol

Response from: General Medical Council

 

Dydd Gwener 1af Rhagfyr 2017

 


SeneddCommunities@assembly.wales

Ymateb y CMC i'r Ymgynghoriad ar Fil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Diolch i chi am y cyfle i ymateb i'r Ymgynghoriad ar Fil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

Cyn rhoi sylwadau ar y Papur Gwyn, roeddem yn meddwl gallai fod yn ddefnyddiol ail-adrodd rôl y CMC. Mae gennym swyddfa yng Nghymru ers 2005. Rydym yn sefydliad anibynnol sy'n helpu diogelu cleifion a gwella addysg feddygol ac ymarfer ar draws y Deyrnas Unedig.

n  Rydym yn penderfynu pa feddygon sy'n gymwys i weithio yma ac rydym yn arolygu addysg a hyfforddiant meddygol y Deyrnas Unedig.

n  Rydym yn gosod y safonau mae rhaid i feddygon eu dilyn, a gwneud yn siŵr eu bod yn parhau i gwrdd â'r safonau hyn drwy gydol eu gyrfaoedd.

n  Rydym yn gweithredu pan gredwn gall meddyg roi diogelwch cleifion, neu hyder y cyhoedd mewn meddygon mewn perygl.

Dylai pob claf dderbyn safon uchel o ofal. Ein rôl yw helpu cyflawni hynny drwy weithio'n glòs â meddygon, eu cyflogwyr a chleifion, i sicrhau fod cyfiawnhad llwyr yn yr ymddiried sydd gan gleifion yn eu meddygon.

Rydym yn anibynnol o lywodraeth a'r proffesiwn meddygol ac yn ateb i'r Senedd yn Llundain. Rhoddir ein pwerau i ni gan y Senedd drwy'r Ddeddf Feddygol 1983.

Tra bod llawer o feysydd y Bil yn disgyn tu allan i'n rôl a'n cwmpas gwaith, rydym wedi ymdrechu i ddarparu gwybodaeth lle bo'n briodol.

Derbyn Cwynion Llafar

1        Mae'r CMC yn cefnogi'r bwriad tu ôl i'r cynnig i ganiatáu i'r Ombwdsmon dderbyn a gweithredu ar gwynion llafar neu ysgrifenedig, gan gynnwys drwy fformatau electronig. Byddai hyn yn gwneud yr Ombwdsmon yn haws mynd ato, a thrwy hynny gwella gallu'r Ombwdsmon i weithredu ar unrhyw faterion a fygythiai diogelwch cleifion, yn ogystal â gwella'r posibilrwydd o wasanaethau cyhoeddus fod yn barod i dderbyn yr angen am newid yng ngolau cynnydd mewn adroddiadau o bryderon.

2        Nod craidd y CMC yw sicrhau bod cleifion yn derbyn ansawdd uchel o ofal. Mae gwella hygyrchedd yn caniatáu mwy o gyfleoedd i gleifion fynd â'u pryderon am wasanaethau iechyd at yr Ombwdsmon, ac yn y pen draw, yn rhoi archwiliad ychwanegol o ansawdd y gofal a ddarperir.

Y Pŵer i Ymgymryd â Mentrau'ch Hun

3        Mae'r CMC yn cefnogi'r bwriad i ganiatáu i'r Ombwdsmon i gael y disgresiwn i gynnal ei archwiliadau ei hun, ac mae'n cydnabod y cymhelliad i gryfhau llais y dinesydd a sicrhau bod gwaith yr Ombwdsmon wedi ei ganoli ar y dinesydd. Mae hyn yn unol â'n canllaw craidd Arfer meddygol da sy'n pwysleisio bod cleifion wrth wraidd ein gwaith drwy bwysleisio'r angen i feddygon wneud y gofal o'u cleifion eu busnes cyntaf a bod rhaid i feddyg“drin cleifion fel unigolion a pharchu eu hurddas”.

4        Byddai'r cam hwn yn unioni'r sefyllfa bresennol lle gall archwiliad i gŵyn am fwrdd iechyd arwain at bryderon ynglŷn â materion systemig a all fod yn bresennol oddi mewn i fyrddau iechyd eraill. O dan y gyfraith bresennol, er mwyn i'r Ombwdsmon archwilio'r posibilrwydd o faterion o'r fath oddi mewn i fyrddau iechyd eraill, byddai rhaid i'r achwynydd wneud cwyn ar wahân i'r Ombwdsmon. Byddai'r pŵer newydd hwn yn galluogi'r Ombwdsmon i fod yn fwy rhagweithiol yn hyn o beth, drwy wella'r cyfle o faterion o'r fath gael eu hadnabod a'u hateb, ac felly i fyrddau iechyd ddarparu gwell ansawdd gofal i gleifion. Mae hyn yn cefnogi nod craidd y CMC.

5        Byddai'r CMC yn disgwyl mai cyn i'r Ombwdsmon gychwyn ar ei archwiliad ei hun yn y sefyllfaoedd perthnasol, y cyhoeddir y rhesymau am wneud hynny, gan amlinellu eu pryderon a chyfiawnhadau am ymarferion archwilio mewn sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus eraill. Byddem hefyd yn gobeithio cael ein hysbysu o unrhyw bryderon a materion perthnasol oddi mewn i'r sector iechyd, sy'n berthnasol i'n rôl fel rheolydd proffesiynol.

Archwilio Triniaeth Feddygol Breifat Gan Gynnwys Gofal Nyrsio mewn Llwybr Iechyd Cyhoeddus/Preifat

6        Mae'r CMC yn cefnogi'r bwriad i ganiatáu i'r Ombwdsmon archwilio materion yn ymwneud â'r elfen o wasanaethau iechyd preifat o gŵyn mewn llwybr cyhoeddus/preifat. Byddai hyn yn adlewyrchu'r cyd-destun o integreiddio cynyddol o'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, agenda y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn yn weithredol. Gwelir tystiolaeth o hyn yn y Papur Gwyn diweddar, Gwasanaethau sy'n addas i'r dyfodol, a oedd yn cynnwys cynigion ar gyfer archwiliadau o gŵynion ar y cyd a allai bontio y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Ymhellach, mae'n canllaw craidd yn cydnabod pwysigrwydd parhad a chydlyniant gofal rhwng y sectorau, drwy ddweud bod rhaid i feddygon, “gyfrannu at y trosglwyddiad diogel o gleifion rhwng darparwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol”.

7        Mae'r CMC hefyd yn cydnabod byddai hyn yn arwain at sefyllfa lle mae'r broses gwyno'n dilyn y dinesydd ac nid yw'n cael ei chyfyngu yn ôl sector. Trwy gael gwared â'r angen ar aelodau o'r cyhoedd i wneud cwynion ar wahân – at yr Ombwdsmon a'r darparydd iechyd preifat fel ei gilydd – lle roeddynt wedi derbyn triniaeth iechyd yn y sector cyhoeddus ac wedi comisiynu gwasanaethau o'r fath gan ddarparwyr iechyd preifat, byddai mwy o archwilio o ofal yn cael ei ddarparu. Yn y pen draw, byddai'n sicrhau ni leiheir llais y claf yn yr achosion hyn, gan wella ar y sefyllfa bresennol ac ateb realiti cwynion o'r fath gymryd amser sylweddol i'w hateb. Fel gyda'r pwerau newydd arfaethedig i'r Ombwdsmon ymgymryd â'i archwiliadau ei hun, hyderwn o gael ein hysbysu o unrhyw bryderon a materion perthnasol oddi mewn i'r sector iechyd sy'n codi o archwiliadau o'r fath, sy'n berthnasol i'n rôl fel rheolydd proffesiynol.

Ymgymryd â Rôl mewn Perthynas â Safonau Trin Cwynion a Gweithdrefnau

8        Mae'r CMC yn cefnogi'r cynnig o gryfhau rôl yr Ombwdsmon mewn sicrhau trin cwynion ar draws y sector cyhoeddus yn effeithiol drwy ganiatáu iddo gyhoeddi model o bolisi trin cwynion ar gyfer awdurdodau a restrir. Mae'n canllaw craidd yn gwneud y pwysigrwydd o ymatebion effeithiol i gŵynion gan gleifion yn glir drwy ddweud bod rhaid i feddygon“ymateb ar unwaith, yn llawn ac yn onest i gŵynion”.  Yn ychwanegol, mae'n canllaw Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch yn dweud fod gan feddygon “gyfrifoldeb tuag at y rhai sy'n codi pryder”  ac mae rhaid iddynt“ddweud wrthynt ba gamau sydd wedi eu cymryd neu bydd yn cael eu cymryd i atal ail-ddigwyddiad o'r broblem”.

9        Mae'r sefyllfa bresennol yng Nghymru o fabwysiadu'r model cwynion yn wirfoddol ar draws y sector cyhoeddus wedi methu â chyflawni cysondeb ar draws y sector cyhoeddus, a byddai ateb hyn yn cynyddu'r potensial ar gyfer dysgu a gwelliannau mewn trin cwynion. Yn ychwanegol, mae'r CMC yn gefnogwr o'r goliau lles ac felly rydym yn croesawu mae gan hwn y potensial o gefnogi'r gôl lles o Gymru iachach, gan fyddai fwy o bwyslais ar ddysgu'n ehangach oddi wrth gwynion ac felly gyrru gwelliant oddi mewn i'r sector iechyd.

10     Mae'r CMC wedi mwynhau perthynas waith bositif â'r Awdurdod Safonau Cwynion (CSA) yn yr Alban, drwy gymryd rhan yn ei ymgynghoriad diweddar ar safon newydd Gweithdrefn Trin Cwynion y GIG (CHP). Rhoddodd Bennaeth y CSA gyflwyniad ar y CHP i randdeiliaid y CMC, gan ddarparu llwyfan i'r CSA ymgysylltu â'r CMC a phartneriaid iechyd yn yr Alban. Caniataodd ein gwaith gyda'r CSA i sefydlu'r CHP i'r weithdrefn gynnwys mwy o bwyslais ar arwyddo a chyfeirio at reolyddion gofal iechyd proffesiynol. Hyrwyddodd hefyd ein mewnbwn i ymdrechion gan y CSA i ddarparu mwy o eglurder ar weithdrefnau cwynion mewn perthynas â meddygon teulu a rôl byrddau iechyd. Hyderwn sicrhau bod y mewnbwn hwn hefyd yn bresennol mewn unrhyw gam a gymerai'r Ombwdsmon yn y dyfodol, er mwyn egluro unrhyw faterion tebyg a allai godi a thrwy hynny sicrhau bod unrhyw weithdrefn a gytunwyd yn addas i'r pwrpas i ateb cwynion perthnasol sy'n ymwneud â'r sector iechyd. Byddai hyn yn cefnogi ein nod ehangach o gynnal a mwyhau ein partneriaeth o weithio gyda sefydliadau cwynion perthnasol a sefydliadau cleifion, er mwyn gwella arwyddo cwynion rydym yn eu derbyn nad ydynt o fewn ein cwmpas gwaith i'w hateb.

 

Gobeithiaf bod y cyflwyniad hwn yn ddefnyddiol i chi a'ch cyd-weithwyr. Os oes angen fwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Huw Anslow – Swyddog Materion Cymreig ar huw.anslow@GMC-uk.org neu 02920 494948.

Yn ddiffuant

Katie Laugharne

Pennaeth Materion Cymreig

E-bost: Katie.laugharne@GMC-uk.org

Ffôn:  02920 49 49 48